Fe fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn ymweld ag Awstria er mwyn trafod Brexit, cyn cychwyn ar gyfnod o wyliau yn yr Eidal a’r Swistir.
Bydd Theresa May yn ymweld â gŵyl gerddorol yn Salzburg fel gwestai Canghellor Awstria, Sebastian Kurz.
Fe fydd cyfarfod yn cael ei gynnal wedyn rhyngddi hi, y Canghellor a Phrif Weinidog y Weriniaeth Tsiec, Andrej Babis.
Mae’r cyfarfod hwn yn rhan o gyfres o drafodaethau mae Llywodraeth Prydain yn eu cynnal ledled Ewrop, a hynny er mwyn ennill cefnogaeth i’w chynllun Brexit.
Fe gafodd y cynllun ergyd arall yr wythnos hon, ar ôl i Brif Drafodwr yr Undeb Ewropeaidd ar Brexit, Michel Barnier, wrthod y cynigion ar gyfer tollau.
Mae disgwyl i arweinyddion Ewrop gyfarfod mewn uwchgynhadledd anffurfiol ddiwedd mis Medi er mwyn trafod y datblygiadau ar Brexit.
Daw hyn ar ôl i Ganghellor yr Almaen, Angela Merkel, ddweud bod yna “ddieithrio” wedi digwydd yn y trafodaethau yn ddiweddar.
Gwyliau’r Prif Weinidog
Yn dilyn yr ymweliad ag Awstria, fe fydd Theresa May a’i gŵr, Philip, yn treulio wythnos yn yr Eidal, cyn dychwelyd i’w hetholaeth yn Maidenhead a Stryd Downing am gyfnod.
Fe fydd y ddau wedyn yn treulio pythefnos yn y Swistir, a hynny ar ôl ymweld â digwyddiad i ddynodi can mlynedd ers Brwydr Amiens – un o frwydrau mawr y Rhyfel Byd Cyntaf a gychwynnodd ar Awst 8, 1918.
Does dim disgwyl i arweinydd yr wrthblaid, Jeremy Corbyn, gyhoeddi beth yw cynlluniau ei wyliau.