Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ac Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, wedi cytuno taro bargen ynglyn â thrafod masnach.
“Dyma ddiwrnod pwysig i fasnach rydd a theg,” meddai arweinydd America ddydd Mercher (Gorffennaf 25) cyn datgan y byddai’n “mynd i’r afael” â thariffau ar nwyddau o Ewrop.
“Mi wnaethon ni daro bargen,” meddai Jean-Claude Juncker wedyb, gan ychwanegu y byddai’r ddwy ochr yn anelu i gael gwared â thariffau ar nwyddau diwydiannol ei gilydd, yn llwyr.
Mae Donald Trump wedi gosod tariffau ar ddur ac alwminiwm sy’n cael eu mewnforio i’w wlad, ac mae Ewrop a Chanada wedi gwrthwynebu’r cam.
Yn y gorffennol mae’r Arlywydd wedi cyhuddo’r Undeb Ewropeaidd o arddel arferion masnach annheg, ac wedi’u labeli yn “wrthwynebydd”.