Mae heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth yng Nghaerdydd, wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio.
Bu farw Malaciah Joseph Thomas, 20, yn Grangetown yn ystod oriau mân y bore, ddydd Llun (Gorffennaf 23).
Cafodd heddlu eu galw i Heol Corporation, am 2yb yn dilyn adroddiadau am “ymosodiad difrifol” mewn gardd flaen tŷ.
Roedd Malaciah Joseph Thomas – o Dre-biwt – wedi’u drywanu sawl gwaith, a bu farw yn y fan a’r lle o’i anafiadau.
Bellach mae dyn, 19 blwydd oed, o Drelái, Caerdydd, wedi’i arestio.