Mae gwyddonwyr wedi darganfod llyn o ddŵr ym mhegwn deheuol planed Mawrth.

Wedi’i leoli dan haen o rew – ac mewn rhan o’r blaned sy’n aeaf o hyd – mae’r llyn yn llawn halen, ac felly’n medru aros yn hylif.

Dyma’r tro cyntaf i wyddonwyr fedru profi bodolaeth cronfa o’r fath ar y blaned goch, ac mae’r darganfyddiadau yn codi’r cwestiwn – a oes bywyd yno?

Tîm o wyddonwyr o’r Eidal wnaeth ddod o hyd iddo, trwy ddefnyddio lloeren a phelydrau radar.

Mae’r llyn yn gorwedd yn ardal Planum Australe, yn 12 milltir o hyd, ac wedi’i orchuddio gan haen o rew sy’n 0.9 milltir o drwch.

Oes yna fywyd ar blaned Mawrth?

Heb ddŵr, dyw bywyd methu ffynnu, ac felly mae’r darganfyddiad diweddaraf yma’n argoeli’n dda. Ond, un broblem yw bod hi’n anodd i fywyd oroesi mewn dŵr sydd â lefel uchel o halen.

Er hynny, mae yna dystiolaeth o fywyd yn ffynnu dan y fath amodau, ac un enghraifft o hynny yw’r ‘haloffilau’ sy’n byw yn y Môr Marw.