Mae Bae Caerdydd gam yn agosach at droi’n faes Eisteddfod Genedlaethol, wrth i fframiau tîpis gael eu gosod yno.
Rhain fydd strwythur ‘Caffi Maes B’ eleni, a phan fydd y brifwyl yn agor ddechrau Awst, yma fydd artistiaid y Sîn Roc Gymraeg yn cynnal eu perfformiadau acwstig.
Bydd yr ardal yma yn gartref i weithiau artistiaid hefyd, ymhen ychydig dros bythefnos.
Mae gweithwyr yn parhau i osod fframiau metel mewn mannau eraill o’r Bae, ar gyfer y brifwyl a fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng Awst 3 ac Awst 11.