Mae o leia’ 24 o bobol wedi cael eu lladd a mwy na chant wedi’u hanafu yn dilyn tanau gwyllt yng Ngwlad Groeg.

Dyma’r gyfres waetha’ o danau gwyllt yn y wlad ers mwy na degawd, wrth i ganolfannau gwyliau ger Athens gael eu heffeithio.

Yn ôl swyddogion, mae o leia’ 104 o bobol wedi’u hanafu, gyda 69 angen triniaeth feddygol a 11 mewn cyflwr difrifol.

Ond mae yna bryderon y bydd y nifer o’r meirw yn cynyddu, ar ôl i dair dynes a phlentyn gael eu canfod yn y môr ger ardal y tanau.

Dyw Gwlad Groeg ddim wedi hweld tanau gwyllt cynddrwg â hyn ers 2007, pan fu farw mwy na 60 o bobol yn ne rhanbarth Peloponnese.

Mae Llywodraeth y wlad wedi gofyn am gymorth rhyngwladol trwy gyfrwng yr Undeb Ewropeaidd, gyda Cyprus a Sbaen wedi ymateb i’r alwad.

Mae disgwyl glaw trwm ar draws de’r wlad yn ystod y dydd heddiw.