Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad ar ôl i gerddwr farw mewn gwrthdrawiad traffig yn Nhreboeth ger Abertawe.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar Stryd Roger, Treboeth, am toc ar ôl 2yp ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 24).

Fe dderbyniodd dyn 73 oed, a gafodd ei daro gan gar Renault Clio melyn, anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad, a bu farw yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod ei deulu wedi’i hysbysu, ac yn derbyn cymorth gan arbenigwyr.

Bu Stryd Roger ynghau am rai oriau, ond mae bellach wedi’i ailagor.