Mae Comisiynydd y Gymraeg yn beirniadu’r diffyg defnydd o’r Gymraeg ar raglenni prentisiaethau.
Er bod canran y prentisiaethau sy’n cynnwys rhywfaint o Gymraeg wedi cynyddu ers 2013-14, mae Meri Huws yn nodi bod yna “fwlch mawr” rhwng y ddarpariaeth Cymraeg a Saesneg o hyd.
Mae ffigurau diweddar yn dangos mai dim ond 4% o raglenni prentisiaethau oedd yn cynnwys o leiaf un weithgaredd dysgu dwyieithog yn 2016-17.
Ac yn ystod yr un cyfnod, dim ond 0.3% oedd yn cynnwys o leiaf un weithgaredd cyfrwng Cymraeg.
“Chwalu’r rhwystrau”
“Mae’r ffigyrau’n dangos bod yna fwlch mawr fan hyn, ac nad oes digon o fanteisio ar y cyfleoedd i sicrhau bod disgyblion sy’n derbyn addysg Gymraeg yn yr ysgol yn symud ymlaen i ddefnyddio’r iaith yn y byd gwaith, yn enwedig mewn swyddi galwedigaethol,” meddai Meri Huws.
“Mae angen hybu a chefnogi ymgysylltu gwell rhwng darparwyr, cyflogwyr a dysgwyr.
“Ond mae angen i’r Llywodraeth hefyd gynllunio ar y lefel genedlaethol er mwyn datblygu capasiti yn y sector a chwalu’r rhwystrau sy’n atal cynyddu defnydd y Gymraeg mewn prentisiaethau.”
Bydd y Comisiynydd yn cynnal trafodaeth ar y pwnc ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth).