Mae cyn-ddirprwy arlywydd Afghanistan, y Cadfridog Abdul Rashid Dostum wedi osgoi cael ei anafu yn dilyn ffrwydrad ger maes awyr.
Roedd e’n dychwelyd o Dwrci ar ôl blwyddyn pan ddigwyddodd y ffrwydrad ger y maes awyr yn Kabul.
Mae lle i gredu mai hunanfomiwr oedd yn gyfrifol.
Mae ymchwiliad ar y gweill i ddod o hyd i bobol a allai fod wedi cael eu hanafu.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn, ond mae’r Taliban a Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – ill dau yn gweithredu ym mhrifddinas y wlad.
Cefndir
Cafodd Abdul Rashid Dostum ei wahardd rhag bod yn wleidydd yn 2017 yn dilyn honiadau bod ei gefnogwyr wedi arteithio ac ymosod yn rhywiol ar un o’i wrthwynebwyr.
Mae lle i gredu iddo gael ei wahardd gan y llywodraeth rhag dychwelyd i’r wlad.
Fe fu’n derbyn triniaeth feddygol yn Nhwrci dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd e’n wynebu cyhuddiadau yn Afghanistan.