Mae Donald Trump wedi dweud bod y cyfarfod rhyngddo â Vladimir Putin wedi cael “dechrau da iawn”.
Mi dreuliodd y ddau fwy na dwy awr yng nghwmni ei gilydd yn Helsinki, prifddinas y Ffindir, heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 16).
Daw’r cyfarfod ddiwrnod ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau adael yr Alban, lle bu’n treulio’r penwythnos ar ôl cyfarfod â Phrif Weinidog Prydain, Theresa May, a’r Frenhines ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.
Heddiw yw diwrnod cynta’r cyfarfod rhwng Donald Trump ac Arlywydd Rwsia, ac fe fydd y trafodaethau rhwng y ddau yn parhau yfory.
Protestiadau
Yn y cyfamser, mae nifer wedi bod yn protestio yn Helsinki wrth i’r ddau arweinydd ymweld â’r wlad.
Maen nhw’n protestio am amryw o faterion, gan gynnwys hawliau hoywon ac erthylu, yr amgylchedd, a’r rhyfel yn yr Wcráin.
Ddydd Sul, fe orymdeithiodd tua 1,500 o bobol drwy’r ddinas, gyda’r gobaith o dynnu sylw at eu materion.
Dywedodd trefnwyr un o’r protestiadau nad oedden nhw’n targedu Donald Trump na Vladimir Putin yn benodol, ond yn hytrach yn ceisio tynnu sylw at nifer o faterion rhyngwladol.