Mae grŵp o Gaerdydd sy’n cynhyrchu erthyglau Wicipedia Cymraeg wedi croesawu gwobr arbennig fel “cydnabyddiaeth” o’u gwaith.
Mae Wici Caerdydd wedi bod yn cyfarfod ers dros flwyddyn i greu’r erthyglau yma, a dros y penwythnos mi dderbynion nhw gwobr ‘Wikimedians of the Year 2018’ gan Wikimedia UK.
Roedden nhw ymhlith pum grŵp a dderbyniodd gwobr am eu cyfraniad i Wikipedia, a nhw oedd yr unig grŵp o Gymru – roedd pob un arall o’r Alban.
Yn ôl Eiri Angharad, a sefydlodd Wici Caerdydd ar y cyd â Gwenno Elin Griffith ym mis Ebrill y llynedd – mae’r grŵp yn mynd o nerth i nerth.
A bellach maen nhw’n ysbrydoli ar lefel rhyngwladol, gyda phobol o wledydd amrywiol yn gofyn am gyngor.
“Trwy jest cynnal sesiynau Wikipedia r’yn ni’n codi ymwybyddiaeth ymhlith lot o bobol amdano fe,” meddai wrth golwg360.
“A dw i’n gobeithio bod y sgil-effaith tipyn pellach. Mae ‘na lot o bobol sy’n cysylltu gyda ni a’n dweud eu bod eisiau dechrau grwpiau tebyg yn eu hardaloedd nhw.
“Felly dw i’n credu bod pobol yn dod yn fwy ymwybodol o’i bwysigrwydd yn awr.”
Wici Caerdydd
Cafodd Wici Caerdydd ei sefydlu ym mis Ebrill y llynedd, ac ers hynna mae sesiynau sgwennu erthyglau wedi cael eu cynnal yn fisol.
Bu’r grŵp yn cwrdd yn yr Hen Lyfrgell am flwyddyn, ac ers mis Ebrill eleni maen nhw wedi bod yn cynnal ei sesiynau yn Chapter yn Nhreganna.
Mae rhwng pump ac ugain person yn mynychu’r sesiynau pob tro, ac mae’r grŵp yn creu o leia’ chwe erthygl newydd bob sesiwn.