Mae academydd o Gymru wedi dod i hyd i un o sgriptiau ffilm colledig Stanley Kubrick, y cyfarwyddwr ffilm enwog o’r Unol Daleithiau.
Mae’r Athro Nathan Abrams o Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor yn arbenigwr ar fywyd a gwaith Stanley Kubrick, ac fe ddaeth o hyd i’r sgript wrth ymchwilio ar gyfer ei lyfr nesa’ ar y cyfarwyddwr.
Mae’r sgript, sydd â’r teitl Burning Secret, yn dyddio o 1956, ac mae’n addasiad o nofel fer o’r un enw gan y nofelydd o Fienna, Stefan Zweig.
Mae’r nofel yn adrodd hanes bachgen Iddewig 12 oed sy’n gweithredu fel rhyw fath o gyfryngwr rhwng ei fam briod a barwn o Awstria, sydd â’i lygaid arni.
Ond er i Stanley Kubrick, ar y cyd â’i bartner cynhyrchu, James B Harris, gael eu comisiynu i greu ffilm yn seiliedig ar y nofel, ni chafodd ei chwblhau.
Roedd hynny oherwydd bod MGM, y stiwdio yr oedd y ddau’n gweithio iddi ar y pryd, wedi gohirio’r prosiect.
Templed i ffilmiau diweddarach
Yn ôl yr Athro Nathan Abrams, mae’r sgript gynnar yn cynnwys elfennau a ddaeth yn amlwg yn rhai o ffilmiau diweddarach Stanley Kubrick.
“Mae sgript ffilm Burning Secret yn rhoi golwg gynnar ar y ffordd y cyfieithodd Kubrick idiom fin-de-siècle Awstriaidd i un Americanaidd cyfoes,” meddai.
“Wrth adleoli’r digwyddiadau i westy yn America mae’n rhagfynegi ei ffilmiau diweddarach, Lolita a The Shining.
“Ond yr hyn mae’n ei wneud yn amlwg iawn yw rhoi’r templed i’w ffilm olaf, Eyes Wide Shut, yn arbennig o ran ei chefndir Awstriaidd-Iddewig a’r sylw y mae’n ei roi i briodas, ffyddlondeb mewn priodas, godineb a rhywioldeb.
“Mae’r barwn suave, sy’n dod yn Americanwr sy’n gwerthu yswiriant, yn sicr yn fodel cynnar i Victor Ziegler a Sandor Szaost yn Eyes Wide Shut.”
Stanley Kubrick
Mae Stanley Kubrick yn cael ei ystyried yn un o’r cyfarwyddwyr a’r cynhyrchwyr ffilm mwya’ dylanwadol yn hanes sinema’r byd.
Roedd y rhan fwya’ o’i ffilmiau yn addasiadau o nofelau a straeon byrion, ac yn nodweddiadol am eu realaeth, hiwmor tywyll a’u cerddoriaeth drawiadol.
Ymhlith ei ffilmiau mwya’ adnabyddus mae 2001: A Space Odyssey (1968), The Shining (1980) ac A Clockwork Orange (1971).