Mae 60 o ffoaduriaid wedi cyrraedd y lan yn Barcelona, ar ôl i’r Eidal ac ynys Melita wrthod eu derbyn.

Yn eu plith y mae pump o fenywod, plentyn ifanc a phedwar o bobol yn eu harddegau.

Yn ôl cynorthwywyr dyngarol yn Sbaen, mae’r ffoaduriaid wedi teithio o 14 o wledydd gwahanol, ond maen nhw i’w gweld yn iach.

Mae 500 o ffoaduriaid wedi marw ym Môr y Canoldir ers i’r llong Aquarius gael ei gwahardd rhag gollwng pobol yn yr Eidal a Melita fis diwethaf. Mae 1,405 o bobol wedi marw yn y môr ers dechrau’r flwyddyn.

Sbaen

 

Mae Sbaen wedi rhoi’r hawl i ffoaduriaid gael trwydded am 30 diwrnod i wneud cais am loches neu ddinasyddiaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gan nifer ohonyn nhw deulu yn yr Almaen, Gwlad Belg a Ffrainc.

Mae mudiad Meddygon Heb Ffiniau wedi beirniadu’r Undeb Ewropeaidd am esgeuluso’r ffoaduriaid sy’n cyrraedd y lan yn Ewrop, ac yn dweud bod bai arnyn nhw am unrhyw farwolaethau yn Libya.