Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll am arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Mae’n golygu bod Leanne Wood yn wynebu her am yr arweinyddiaeth am y tro cyntaf ers iddi gael ei hethol chwe blynedd yn ôl, wedi i Adam Price hefyd daflu ei het i’r cylch.
Fe ddaeth cyhoeddiad y cyn-newyddiadurwr heddiw mewn fideo ar wefannau cymdeithasol yn dilyn cryn ddyfalu y byddai’n cyflwyno’i enw ar gyfer y swydd.
Mae hefyd wedi cadarnhau ei fwriad mewn llythyr at Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Seneddol ac arweinwyr cynghorau Plaid Cymru.
Mae Leanne Wood eisoes wedi dweud y bydd hi’n rhoi’r gorau i’w swydd ymhen tair blynedd os nad yw hi’n Brif Weinidog erbyn hynny.
‘Gwahanol weledigaethau’
Wrth gadarnhau y bydd yn sefyll, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Leanne Wood wedi “gwahodd trafodaeth” am arweinyddiaeth Plaid Cymru a allai “agor pennod newydd yn hanes Plaid Cymru”.
Dywedodd iddo gael cefnogaeth “aelodau a chefnogwyr o Blaid Cymru o bob cwr o’r wlad, o gymoedd y de i’r canolbarth i’r gogledd, o’r gorllewin i Gaerdydd”.
Ond dywedodd hefyd iddo gael cefnogaeth “rhai, dw i’n reit siŵr, fyddai’n cefnogi Leanne”, sy’n tanlinellu’r angen am “drafodaeth adeiladol…un bositif fyddai yn egnïo y Blaid ac yn egnïo Cymru”.
Dywedodd ei fod yn sefyll mewn “ysbryd o wir gyffro a gwir angerdd dros ddyfodol ein gwlad”, a’i fod yn gobeithio “trafod gwahanol weledigaethau, gwahanol arddulliau a gwahanol syniadau”.
“Mae’n rhaid i Blaid Cymru arwain y ffordd tuag at y Gymru hyderus, newydd yna. A gadewch i ni, dros yr wythnosau nesa’, gael trafodaeth agored a democrataidd ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau’r arweinyddiaeth fwya’ effeithiol a mwya’ cyffrous i Blaid Cymru ac i’r genedl.
Datganiad am arweinyddiaeth Plaid Cymru #RhunPlaid
Datganiad am arweinyddiaeth Plaid Cymru #RhunPlaid
Posted by Rhun ap Iorwerth on Wednesday, 4 July 2018