Mae 29 o bobol wedi marw ar ôl i fferi suddo ger un o ynysoedd Indonesia.
Roedd 139 o bobol ar fwrdd y llong a suddodd ger ynys Sulawesi, ac mi roedd yna dau blentyn ymhlith yr unigolion a fu farw.
Hyd yma mae awdurdodau Indonesia ag achub 69 o bobol, gan gynnwys perchennog y fferi a’r capten.
Roedd y llong wedi teithio o borth Bira, ac yn anelu at gyrraedd ynys Selayar – ynys sydd i’r de o ynys Sulawesi.
Mae damweiniau o’r fath yn gyffredin iawn yn Indonesia – gwlad ag 17,000 ynys – a diffyg rheolau diogelwch sy’n cael y bai gan amlaf.