Mae deg person wedi cael eu lladd yn Ne India ar ôl i drên oedd yn cludo teithwyr fod mewn damwain gyda thrên arall oedd wedi stopio wrth signal. Cafodd dwsinau o bobl eraill eu hanafu.
Fe ddywedodd yr uwch swyddog heddlu Shalendra Babu, fod pum cerbyd wedi dod oddiar y cledrau yn ystod y ddamwain, tua 50 milltir i’r de orllewin o Chennai, prifddinas talaith Tamil Nadu.
Yn ôl yr uwch swyddog heddlu, cafodd 52 arall eu hanafu yn y ddamwain.
Er bod glaw trwm wedi rhwystro ymdrechion i achub y teithwyr, mae’r cleifion bellach wedi’u cludo i ysbytai cyfagos.
Mae swyddogion yn ymchwilio i achos y ddamwain. Mae rhwydwaith rheilffyrdd India ymhlith y mwyaf yn y byd. Mae’n cludo 14 miliwn o deithwyr bob diwrnod.