Mae pennaeth newydd Scotland Yard wedi addo gostwng tor-cyfraith a thorri costau.
Wrth annerch yr heddlu, dywedodd Bernard Hogan-Howe mai ei amcan oedd gwneud yr Heddlu Metropolitan yn un o’r lluoedd gorau yn y byd.
Dywedodd Mr Hogan-Howe ei bod yn anrhydedd cael ei ddewis i arwain y sefydliad wrth iddo sôn am ei dargedau i ostwng tor-cyfraith. Dywedodd mai ei fwriad oedd ennill ymddiriedaeth y cyhoedd a chael gwasanaeth y byddai troseddwyr yn ei ofni.
Mae Mr Hogan-Howe yn gyn-bennaeth heddlu Glannau Merswy ac mae’n camu i swydd Syr Paul Stephenson a ymddiswyddodd yn dilyn yr helynt hacio ffonau.