Er bod Donald Trump yn gobeithio am ‘ddyfodol newydd disglair’ i Ogledd Corea, mae ansicrwydd ynghylch sut bydd y cytundeb rhyngddo a Kim Jong Un yn cael ei wireddu.
Yn yr uwchgynhadledd hanesyddol ddoe, roedd y ddau arweinydd wedi arwyddo datganiad ar y cyd yn cytuno i weithio at gael gwared ar arfau niwclear o benrhyn Corea.
Gan fod Donald Trump wedi cydnabod na fydd hyn yn digwydd dros nos, mae Gogledd Corea o’r farn fod hyn yn golygu ei fod yn cefnu ar ei alwad am ddad-niwcleareiddio llwyr cyn codi gwaharddiadau yn erbyn y wlad.
Mae Donald Trump hefyd wedi addo rhoi’r gorau i ‘gemau rhyfel’, wrth gyfeirio at yr ymarferion milwrol mae byddinoedd America a De Corea yn eu cynnal yn rheolaidd.
Nid yw’n glir fodd bynnag i ba raddau mae’r Pentagon a De Corea wedi cytuno i hyn.
Stad o ryfel
Yn dechnegol, mae Gogledd Corea a’r Unol Daleithiau mewn stad o ryfel ers 68 mlynedd gan na wnaed unrhyw gytundeb heddwch ar ddiwedd rhyfel y wlad yn yr 1950au, and nid yw’r cytundeb ddoe yn manylu ar sut i ddod â hyn i ben.
Dywed Donald Trump y bydd trafodaethau’n cychwyn yr wythnos nesaf rhwng tîm o’i swyddogion a Gogledd Corea tuag at gytundeb llawnach.
“Mae’r uwchgynhadledd wedi dangos bod newid gwirioneddol yn bosibl,” meddai mewn neges Trydar wrth ddychwelyd i America.
“Mae’r posibiliadau’n ddiderfyn i NoKo pan fydd yn rhoi’r gorau i arfau niwclear a chofleidio masnach.”