Fe gafodd newyddiadurwr o Rwsia ei gludo i farwdy, a’i orchuddio â gwaed, fel rhan o ymgais i atal ei lofruddiaeth gan lywodraeth Rwsia.

Fe ‘atgyfododd’ Arkady Babchenko mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Mercher (Mai 30), ar ôl i awdurdodau yn yr Wcráin adrodd ei fod wedi marw.

Roedd hyn wedi cael ei adrodd yn fwriadol, fel rhan o gynllun gan gudd wasanaeth  yr Wcráin, i rwystro’r newyddiadurwr rhag cael ei ladd.

Bellach, mae’r ffigwr wedi datgelu ei fod wedi cael gwybod am y cynllun fis yn ôl, a’i fod wedi cymryd rhan o’i wirfodd.

Y Kremlin

Fe symudodd Arkady Babchenko i Kiev ar ôl derbyn bygythiadau i’w fywyd yn Rwsia, ac mae’n debyg fod y bygwth wedi parhau yn ei wlad fabwysiedig.

Mae’r newyddiadurwr yn feirniadol o’r Kremlin, a chred awdurdodau Kiev yw bod cudd wasanaeth Rwsia wedi talu dyn i’w ladd.