Mae Pacistan ac India wedi cytuno i roi’r gorau i danio at ei gilydd yn rhanbarth Kashmir, wedi misoedd o herio sydd wedi lladd dwsinau o filwyr a phobol gyffredin.
Mae’r ddwy ochr yn hawlio Kashmir, ac mae’r ffrae wedi arwain at ddau ryfel rhwng Pacistan ac India ers iddyn nhw ennill annibyniaeth yn 1947.
Ond mae’r naill a’r llall bellach wedi “cytuno i fesurau diffuant er mwyn gwella’r sefyllfa bresennol a sicrhau heddwch” meddai datganiad gan fyddin Pacistan.
Mae byddin India hefyd wedi cadarnhau’r cytundeb, gan ddweud y bydd hithau’n “ymatal… ac y bydd y mater yn cael ei ddatrys trwy gysylltiadau ffôn a chyfarfodydd ar y ffin rhwng uwch swyddogion”.
Mae’r ddwy ochr hefyd wedi cytuno i adfer ccadoediad a gafodd ei gytuno gyntaf yn 2003.