Mae’r Cymro Cymraeg o Bontarddulais, Owen Morgan a’r batiwr ifanc o Gaerffili, Connor Brown wedi’u cynnwys yng ngharfan undydd Morgannwg am y tro cyntaf y tymor hwn.

Maen nhw’n teithio i Chelmsford i herio Swydd Essex yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, a’u gobeithion o gyrraedd y rownd nesaf bron iawn ar ben.

Mae’r ddau Gymro ifanc wedi creu argraff wrth chwarae i’r ail dîm y tymor hwn, ac maen nhw’n ymuno â saith chwaraewr arall yn y garfan sydd wedi dod drwy rengoedd y sir.

Mae Shaun Marsh, y batiwr o Awstralia, wedi’i alw i’w garfan genedlaethol yn erbyn Lloegr, sy’n cynnig cyfle i un o chwaraewyr iau y sir cyn i Forgannwg benderfynu a fyddan nhw’n arwyddo tramorwr arall yn y cyfamser.

Fydd Shaun Marsh ddim ar gael am weddill y gystadleuaeth hon, na thair gêm Bencampwriaeth ym mis Mehefin.

Mae Morgannwg eisoes wedi colli eu pedair gêm gyntaf yn y gystadleuaeth 50 pelawd, ac mae’r prif hyfforddwr Robert Croft yn dweud mai diffyg gallu i sgorio canred ymhlith y batwyr yw’r prif wendid ar hyn o bryd.

Ond mae Owen Morgan a Connor Brown, ill dau, wedi sgorio canred i’r ail dîm yn ddiweddar.

Carfan Swydd Essex: R ten Doeschate (capten), R Bopara, V Chopra, M Coles, S Cook, J Foster, S Harmer, D Lawrence, J Porter, S Snater, N Wagner, T Westley, A Wheater, A Zaidi

Carfan Morgannwg: C Ingram (capten), N Selman, A Donald, J Lawlor, C Brown, C Cooke, D Lloyd, O Morgan, A Salter, T van der Gugten, L Carey, R Smith, G Wagg

Sgorfwrdd