Mae trefnu priodas yn un peth, ond mae trefnu’r mis mêl delfrydol yn rhywbeth arall.
Roedd cefnogwr pêl-droed o bentref Rhosgadfan ger Caernarfon wedi trefnu’i briodas dros flwyddyn yn ôl, ond roedd yn aros i dîm pêl-droed Cymru drefnu gêm cyn penderfynu lle i fynd ar ei fis mêl.
Dyna pam, wythnos ar ôl priodi, y mae Ben Aaron Davies a’i wraig Gwen wedi teithio i Los Angeles i weld Cymru’n herio Mecsico heddiw (dydd Llun, Mai 28).
“Roedd yn hunllef aros am gadarnhad am y gêm yn America!” meddai Ben Aaron Davies wrth golwg360.
“O’n i wedi methu’r daith i Tsieina oherwydd amser y briodas… ond mae cael gweld Cymru’n chwarae Mecsico yn stadiwm eiconig y Rose Bowl yn eisin ar y gacen ar ôl y briodas.
“Rydan ni’n teithio i Los Angeles am dridiau ac wedyn i Orlando am wyth diwrnod.”
Dim Gareth Bale
Mae bron i 500 o Gymru yn mynd i’r gêm ond mae dipyn o siom i Ben Aaron Davies am na fydd Gareth Bale ar gael – a hynny ar ôl perfformiad a hanner, a dwy gôl gofiadwy, tros Real Madrid yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn Kiev.
“Mae’n bechod fod Gareth Bale ddim ar gael, a James Chester, ond mae rhoi cyfle i rywun arall,” meddai.
“Dw i’n edrych ymlaen at weld Harry Wilson, mae wedi cael cyfnod da efo Hull yn y Bencampwriaeth…
“Oedd hi hefyd yn syrpreis i weld Hal Robson-Kanu ddim yn y garfan… ond mae’n rhoi cyfle i’r tîm rheoli edrych ar rywun arall fel Tom Bradshaw.”
Dilyn y crysau cochion
Gém gyntaf Ben Aaron Davies oedd Cymru 4-0 Azerbaijan yn 2003, a’i gêm oddi cartref gyntaf oedd y fuddugoliaeth yn yr eira yn yr Alban pan sgoriodd Hal Robson-Kanu y gôl fuddugol yn 2013.
“Mae gwylio Cymru dramor yn brofiad anhygoel, gwylio pêl droed mewn gwledydd na fasa rhywun yn mynd iddyn nhw oni bai am y gêm,” meddai.
“Dw i’n gobeithio bod priodi ddim yn fy rhwystro i rhag mynd i gemau yn y dyfodol! Dw i wedi trefnu’n barod i fynd i Ddenmarc ym mis Medi.”