Mae swyddogion iechyd yn “dawel optimistaidd” eu bod nhw wedi llwyddo i atal Ebola rhag lledu – ond mae rhai achosion yn y Congo o hyd.
Yn ddiweddar, mae 35 o achosion wedi cael eu cofnodi a 25 o farwolaethau.
Mae mwy na 400 o bobol wedi cael eu brechu fel rhan o arbrawf, y tro cyntaf i’r brechlyn gael ei ddefnyddio wrth i’r haint ddechrau lledu.
Dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad Iechyd y Byd yng Ngenefa ei bod yn galonogol nad yw’r haint wedi lledu ymhellach yn ninas Mbandaka yn y Congo.
Mae arbenigwyr yn paratoi i brofi pum cyffur newydd i drin Ebola, ond mae angen sêl bendith y Congo yn y lle cyntaf.