Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i gyfres o droseddau casineb yn ardal Casnewydd dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Cawson nhw eu galw am 9.50 fore Llun ar ôl i’r Neuadd Masonaidd gael ei rhoi ar dân a bod difrod sylweddol i allanfa dân yr adeilad. Mae lle i gredu bod y weithred yn un fwriadol.
Am 12.05 brynhawn dydd Llun, roedd adroddiadau bod graffiti sarhaus ar gampws Canol y Ddinas Prifysgol Cymru yng Nghasnewydd.
Mewn trydydd digwyddiad am 2.40 fore Mawrth, roedd rhywrai wedi llwyddo i gael mynediad i Ysgol Basaleg drwy ffenest, wedi cynnau tân ac wedi rhoi graffiti sarhaus ar yr adeilad.
Roedd nifer o adroddiadau eraill am graffiti ar draws y ddinas, ond dydy’r heddlu ddim yn gwybod ar hyn o bryd ai’r un rhai oedd yn gyfrifol am bob achos.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod nhw’n cymryd pob achos “o ddifrif”.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.