Mae senedd Hwngari wedi ethol Viktor Orban yn Brif Weinidog ar y wlad.
Dyma’r trydydd gwaith yn olynol iddo gael ei benodi i’r rôl, a phenderfynodd sawl gwrthblaid i ymatal o’r bleidlais mewn protest.
Ers dychwelyd i bŵer yn 2010, mae’r ffigwr wedi’i gyhuddo o ymddwyn fel unben.
Wrth dyngu llw yn sgil y bleidlais dywedodd y byddai ei lywodraeth newydd yn “amddiffyn Hwngari a’i diwylliant Cristnogol”.
Yn ystod etholiad Hwngari ym mis Ebrill, enillodd plaid Viktor Orban ‘Fidesz’ mwyafrif helaeth o seddi’r senedd, ac mae disgwyl iddyn nhw fwrw ati i newid y cyfansoddiad heb drafferth.