Bydd rasiwr beiciau modur yn rhoi cynnig ar dorri record byd yn Sir Gaerfyrddin dros y penwythnos.
Traeth Pentywyn yw safle’r ymgais, a nod Zef Eisenburg fydd i yrru’n gyflymach dros dywod nag unrhyw cerbyd o’r blaen.
Does dim un car neu feic modur wedi gyrru’n gyflymach na 200 milltir yr awr dros dywod o’r blaen, a hynny oherwydd bod tywod yn arwyneb hynod o beryglus i yrru drosto ar gyflymder.
Daw’r digwyddiad yn sgil ymgais aflwyddiannus gan y gyrrwr i dorri record yn Swydd Efrog, pan syrthiodd oddi ar y beic tra’n teithio ar gyflymder o 230 milltir yr awr, a threulio tri mis yn yr ysbyty.
Dal ati
“Mae dwy flynedd wedi pasio ers yr ymgais a oedd bron â fy lladd,” meddai Zef Eisenberg. “Dw i’n ddiolchgar fy mod i dal yn fyw.
“Fe fydd pobol yn fy ngalw i’n wallgo’ am ddal ati â’r rasio, ond dw i’n dwlu ar wneud. Dw i’n dwlu ar y cyflymder a’r cyffro.
“Felly, er bod yr atgofion ofnadwy yno o hyd, dw i’n benderfynol fy mod yn mynd i ddal ati, ac i ddal ati i dorri records.”