Mae aelod o Awdurdod S4C wedi dweud nad yw’n difaru cefnogi Loteri Cymru yn ariannol wedi i’r fenter fynd i’r wal.
Mae Guto Harri wedi dweud wrth golwg360 fod “apêl naturiol” wedi bod i’r syniad o godi arian at achosion da tra’n denu mwy o wylwyr i’r sianel.
Mae S4C yn wynebu colli dros £3m o ganlyniad i fethiant Loteri Cymru, sy’n cynnwys benthyciad o £2.5m i’r cwmni a £0.6m o’r ffi am hawliau darlledu.
Mae’r sianel yn pwysleisio bod yr arian hwn wedi dod o is-gwmni masnachol S4C, S4C Digital Media Limited [SDML], ac nid arian cyhoeddus.
Fe aeth Loteri Cymru i ddwylo’r gweinyddwyr ddiwedd mis Mawrth, gyda dros 10,000 o bobol yn methu mynd at eu harian yn eu cyfrifon ar-lein.
“Ddim yn difaru”
“Dydyn ni ddim yn difaru cefnogi’r syniad,” meddai Guto Harri, aelod o Awdurdod y sianel.
“Roedd y potensial i godi arian i achosion da yng Nghymru, fel y gwnaed, a chodi proffil y sianel ymysg pobol sydd ddim yn gyfarwydd â hi, yn amlwg yn rhywbeth oedd yn apelio atom ni.”
Dywed S4C fod SDML yn gweithio gyda’r gweinyddwyr i geisio ad-dalu cwsmeriaid Loteri Cymru.
“Yn dilyn ymchwil manwl, gobaith SDML oedd y byddai’r Loteri yn sefydlu ei hun fel digwyddiad wythnosol poblogaidd fyddai’n cefnogi ystod eang o achosion da yng Nghymru,” meddai llefarydd.
“Byddai’n denu gwylwyr newydd i S4C ac yn cynnig cyfle i godi ymwybyddiaeth o arlwy S4C y tu hwnt i’w chynulleidfaoedd traddodiadol.
“… Fodd bynnag, daeth yn amlwg nad oedd modd, o fewn cyfnod derbyniol, i’r Loteri gynyddu’r nifer yma i’r lefel oedd ei angen i fod yn gynaliadwy fel loteri Gymreig annibynnol.
“O ganlyniad, ac ar ôl caniatáu amser i Loteri Cymru geisio dod o hyd i brynwr, penderfynodd SDML beidio â chynyddu ei ymrwymiad i Loteri Cymru ymhellach.
“… Mae’r gwerth a grëwyd gan y grŵp masnachol [SDML] yn ei gyfanrwydd dros y cyfnod yn fwy na’r golled yn sgîl Loteri Cymru, ac mae wedi parhau i gyfrannu difidend sylweddol i gronfa gyhoeddus S4C bob blwyddyn.”