Mae gwyddonwyr yn disgwyl rhagor o ddinistr yn sgil ffrwydrad llosgfynydd yn Hawaii.
Ffrwydrodd Kilauea ddydd Mercher (Mai 9), a bellach mae tua 2,000 o bobol wedi gorfod ffoi o’u cartrefi. Hyd yma mae tua 36 o adeiladau wedi’u llyncu gan afonydd o lafa.
Ond, mae mwy i ddod yn ôl Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau. Erbyn canol mis Mai, mae disgwyl i’r llosgfynydd ddechrau hyrddio creigiau trwm o fewn yr ardal.
Ac mi fydd cerrig llawer llai yn cael eu taflu o Kilauea gan lanio milltiroedd i ffwrdd.