Gallai prisiau bwyd gynyddu cryn dipyn yn sgil Brexit, os na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sicrhau dêl fasnach rydd ag Ewrop.
Dyna yw rhybudd Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd Tŷ’r Arglwyddi, mewn adroddiad newydd sy’n paentio darlun llwm o fywyd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ogystal â chynnydd costau bwyd, mae’r arglwyddi yn rhagweld y bydd busnesau yn gorfod cau, ac y bydd pobol dlotach yn cael ei gorfodi i brynu bwyd o “safon is”.
“Does dim modd dychmygu sefyllfa” lle na fydd Brexit yn cael effaith ar fewnforion bwyd o’r Undeb Ewropeaidd, meddai’r Arglwyddi.
Tanseilio
“Os na fydd cytundeb, bydd Brexit yn arwain, fwy na thebyg, at dariff bwyd o 22% ar gyfartaledd,” meddai’r adroddiad.
“Dydi hynna ddim o reidrwydd yn golygu cynnydd 22% mewn prisiau bwyd i gwsmeriaid. Ond, heb os nac oni bai, bydd prisiau yn cynyddu.
“Dylai’r Llywodraeth leihau tariffau ar fewnforion bwyd o’r Undeb Ewropeaidd a gwledydd eraill, ond byddai hyn yn peryglu tanseilio cynhyrchwyr bwyd y Deyrnas Unedig.”