Mae Israel wedi ymosod ar sawl un o safleoedd Iran yn Syria.
Daw hyn ar ôl i Iran danio cyfres o daflegrau at safleoedd Israel yn Ucheldiroedd Golan ddoe.
Dyma’r ymosodiad mwyaf grymus gan Israel yn Syria, ers i’r rhyfel cartref ddechrau yno yn 2011. Dyw hi ddim yn glir os cafodd milwyr o Iran eu hanafu.
Mae Iran wedi anfon miloedd o filwyr i ymladd yn Syria er mwyn cefnogi’r Arlywydd, Bashar Assad, ac mae Israel yn pryderu mai nhw fydd y targed nesa’ pan fydd y rhyfel yn dod i ben.
Mae Israel wedi datgan na fyddan nhw’n derbyn presenoldeb y milwyr yma, tra bod Iran yn awyddus i ddial am gyrchoedd awyr ar eu safleoedd yn Syria.
Yn sgil penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i gefnu ar gytundeb niwclear Iran, mae tensiynau wedi dwysáu.