Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi amddiffyn ei benderfyniad i dynnu’r wlad yn ôl o gytundeb niwclear “unochrog” Iran.
Mae’n dweud bod “bedlam” a “marwolaeth” yn dilyn lle bynnag mae Iran yn y cwestiwn.
Yn ystod cyfarfod cabinet, dywedodd ei fod yn barod i drafod cytundeb newydd, gan ddweud ei fod e’n ceisio “cytundeb da iawn i’r byd” – fel arall, meddai, “fydd dim cytundeb o gwbwl”.
Fe anwybyddodd ble gan gynghreiriaid yr Unol Daleithiau i aros yn rhan o’r cytundeb, ond fe ddywedodd ei fod yn bwriadu ailgyflwyno’r sancsiynau yn erbyn Iran dros y misoedd nesaf.
Fe rybuddiodd e Iran rhag corddi’r dyfroedd eto drwy ailgyflwyno’u rhaglen niwclear.