Fe fydd archfarchnad Walmart yn cyrraedd y farchnad Indiaidd yn fuan wrth iddi gymryd rheolaeth o’r cwmni ar-lein Flipkart.
Maen nhw wedi prynu cyfrannau gwerth 16 biliwn o ddoleri (£11.8 biliwn) – y cytundeb mwyaf hyd yn hyn gan werthwr mwya’r byd.
Bydd y cytundeb yn eu rhoi nhw ar flaen y gad yn India, lle mae’r farchnad yn tyfu’n gyflym, ac yn eu rhoi nhw ymhlith rhai o gwmnïau mwya’r byd ochr yn ochr ag Amazon.
Daeth cadarnhad fis diwethaf fod Walmart yn gwerthu Asda fel rhan o gynlluniau ehangach i gystadlu yn y farchnad bresennol.
Mae’r farchnad ar-lein wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd gwerthiant Flipkart wedi cyrraedd $4.6bn (£3.4bn) dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Yn y cyfamser, roedd refeniw Walmart yn $485.8bn (£358.8bn).
Yn sgil y cytundeb hwn, fe fydd Walmart bellach yn berchen ar 77% o Flipkart, a’r gweddill yn nwylo rhanddeiliaid eraill gan gynnwys Microsoft.