Mae tri Americanwr sydd wedi treulio dros flwyddyn dan glo yng Ngogledd Corea, wedi cael eu rhyddhau ac yn dychwelyd i’r Unol Daleithiau.

Dyma’r arwydd diweddaraf o’r gwelliant yn y berthynas rhwng y ddwy wlad, a daw yn sgil ymweliad yr Ysgrifennydd Gwladol, Mike Pompeo, â’r Gogledd.

Roedd y tri Americanwr wedi cael eu cyhuddo o weithredu mewn modd oedd yn bygwth Gogledd Corea.

Bydd arweinyddion Gogledd Corea a’r Unol Daleithiau yn cyfarfod am y tro cyntaf yn y dyfodol agos, ac roedd ymweliad Mike Pompeo yn rhannol yn trafod hynny.

Dyw dyddiad y cyfarfod ddim wedi cael ei gyhoeddi eto ond mae’r Arlywydd, Donald Trump, wedi dweud ar Twitter bod “amser a lleoliad” wedi’u cytuno.