Mae dau o bobol o Lundain wedi’u harestio mewn perthynas ag achos o saethu yn Y Rhath yng Nghaerdydd.

Cafodd dyn 26 oed anafiadau i’w wyneb yn dilyn y digwyddiad ar Chwefror 10, a’i gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Cafodd y ddau – dyn a dynes 22 oed – eu harestio heddiw ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio. Cafodd y ddynes ei harestio yn Tower Hamlets yn Llundain ac aeth y dyn o Croydon at yr heddlu yng Nghaerdydd o’i wirfodd.

Mae’r ddau yn cael eu holi yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu fod lefel y drosedd yn “brin” yng Nghymru, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth am dri dyn arall a char Audi arian, rhif CV53 ZNU. Maen nhw’n cael eu disgrifio fel tri dyn croenddu tua 25 oed, ac un ohonyn nhw’n gwisgo bandana du a gwyn.

Cafodd y car ei weld yn cael ei yrru yn Y Rhath cyn teithio i ffwrdd o’r ardal ar ôl y digwyddiad. Cafodd y car ei ddarganfod wedi’i losgi’n ddiweddarach yn ardal Pen-y-lan y brifddinas.

Mae lle i gredu bod y digwyddiad yn ymwneud â gorfodi unigolion i ddosbarthu cyffuriau gan ddefnyddio trais, a hynny ar ran y criw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.