Mae trefnwyr digwyddiadau yn Aberystwyth wedi cadarnhau na fydd yna barti stryd yn cael ei gynnal ganddyn nhw yn y dre’ ar ddiwrnod priodas y Tywysog Harry a Meghan Markle.
Daw hyn yn tipyn o ffraeo ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, ar ôl i Advancing Aberystwyth Ar y Blaen wneud cais ar y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn i bobol a busnesau ddod â stondinau bwyd neu adloniant i ddigwyddiad yn dathlu’r briodas frenhinol ar Fai 19.
Fe gafodd y neges ei dileu yn ddiweddarach, gyda ffotograffydd lleol yn galw’r syniad yn “ffwlbri”.
Ond mae golwg360 bellach wedi cael cadarnhad gan y trefnwyr “nad yw hi’n fwriad” ganddyn nhw i drefnu digwyddiad o’r fath, ac mai cais oedd y neges i weld os oedd yna “ddiddordeb” gan bobol mewn cynnal un.