Mae awgrym fod llywodraeth Malaysia ar fin colli grym ar ôl 60 mlynedd wrth y llyw.
Mae’r canlyniadau answyddogol yn dangos symudiad cryf tuag at yr wrthblaid.
Yn ôl nifer o rwydweithiau teledu, mae arweinwyr plaid Tsieiniaidd ac Indiaidd o fewn y clymblaid wedi colli eu seddi ‘diogel’ yn nhalaith Sarawak.
Dydy’r canlyniadau terfynol ddim wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn, bedair awr ar ôl i orsafoedd pleidleisio gau – mae’r Comisiwn Etholiadol dan y lach eisoes yn sgil y trefniadau.