Mae un o hoelion wyth Plaid Cymru yn Llanelli, a gafodd ei wahardd y llynedd, wedi cyhuddo uwch swyddogion o geisio’i ddisgyblu trwy “lys cangarŵ”.
Fe ymaelododd Gwyn Hopkins â Phlaid Cymru yn 1973, ond cafodd ei wahardd ym mis Hydref 2017, pan drodd ffrae rhwng y gangen ac uwch swyddogion y blaid yn ganolog, yn danllyd.
Bellach mae’r gangen gyfan yn nhref Llanelli wedi’i gwahardd, ac mae’n debyg bod pump o’r rheiny – ‘y Llanelli 5’ – yn wynebu gwrandawiadau disgyblu am eu rhan yn y ffrae.
Gwyn Hopkins yw un o’r pump, ac mae ef yn honni bod y panel yn debygol o ddyfarnu yn ei erbyn, gan eu bod, meddai, yn gyfeillion ag arweinydd y Blaid, Leanne Wood.
“Llys gangarŵ – dyma air llawer fwy dilys am y Panel Disgyblu,” meddai Gwyn Hopkins wrth golwg360, wrth gadarnhau nad aeth i Gaerdydd ddydd Llun, Ebrill 30. “Mae gan ddau unigolyn sydd ar y panel, berthynas hynod o agos â Leanne Wood.”
Y cyn-Aelod Cynulliad, Jocelyn Davies; ac Alun Cox, rheolwr ymgyrch etholiadol Leanne Wood, yw’r ddau unigolyn hwnnw, meddai’r cyn-aelod a’r cyn-gynghorydd tros Langennech.
Mwy am wrandawiad Ebrill 30
“Mae’r saga ynglyn â’r ‘gwrandawiad’ oedd i’w gynnal yng Nghaerdydd ddydd Llun, Ebrill 30, bron â throi’n opera gomig,” meddai Gwyn Hopkins.
“Yn gyntaf, mae’r ffaith bod Plaid Cymru yn cymryd arni fod ganddi hawl i ddisgyblu rhywun sydd ddim yn aelod o’r blaid – sef fi – yn absẃrd!
“Drannoeth (fore Mawrth, Mai 1) fe dderbyniais i lythyr ar ebost gan Jocelyn Davies, caderidydd y Panel,” meddai Gwyn Hopkins wedyn. “Doedd y llythyr ddim yn dweud llawer, dim ond y byddai’n rhaid i mi fynd gerbron gwrandawiad disgyblu arall pe bawn i byth eisiau ail-ymuno â Phlaid Cymru yn y dyfodol.
“Yna, tua dwyawr yn ddiweddarach, fe dderbyniais ebost arall gan y swyddfa ganolog, yn dweud fod llythyr Jocelyn yn cael ei dynnu’n ôl! Sa i’n siwr beth mae hyn yn ei olygu, ond sa i wedi clywed dim ers hynny.”
“Absẃrd”
Hyd yn oed cyn eu cynnal, mae Gwyn Hopkins yn credu y bydd gwrandawiadau’r ‘Llanelli 5’ yn dyfarnu yn eu herbyn – a hynny oherwydd y byddan nhw’n cael eu cynnal cyn y bydd cwynion 26 o aelodau yn erbyn Mari Arthur, yr ymgeisydd yn Llanelli yn etholiad cyffredinol 2017, yn cael eu hystyried.
Mae cyn-aelodau cangen trefn Llanelli yn mynnu bod Mari Arthur wedi’i gorfodi arnyn nhw – a dyna sydd wrth wraidd y ffrae.
“Dyw Mari Arthur heb fod gerbron panel disgyblu – dw i’n sicr 99% o hynny,” meddai Gwyn Hopkins. “Ac mi fydden i’n croesawu cadarnhad gan unrhyw un ynglŷn â hynny.”
Ymateb Plaid Cymru
“Mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar gyrraedd datrysiad cadarnhaol i’r sefyllfa yn Llanelli. Mae nifer o aelodau yn yr etholaeth yn destun i broses ddisgyblaeth y blaid,” meddai llefarydd wrth golwg360.
“Nid oes modd i ni wneud sylw pellach tan fod y broses hon wedi dod i ben.”