Mae 17 yn rhagor o aelodau cangen Plaid Cymru Tref Llanelli wedi gadael y blaid.

Daeth y cyhoeddiad yn ystod cyfarfod neithiwr (nos Fawrth, Mai 9) yn Neuadd Ddinesig Glenalla, Llanelli.

Cafodd y gangen gyfan ei gwahardd o’r blaid ym mis Chwefror yn sgil ffrae tros ymgeisydd etholiadol, a bellach mae nifer helaeth ohonyn nhw wedi cefnu ar Blaid Cymru yn llwyr. Mae cyfanswm o 40 wedi gadael dros y chwe mis diwethaf.

Ymhlith yr unigolion a gyhoeddodd eu hymadawiad neithiwr mae’r cynghorydd tref a chyn-swyddog wasg y blaid ar gyfer yr etholaeth, Sean Rees. Mae’r holl sefyllfa yn “siomedig” meddai.

“Emosiynol”

“Roedd neithiwr yn eitha’ emosiynol i fod yn onest,” meddai Sean Rees wrth golwg360 drannoeth y cyfarfod. “Rydyn ni wastad wedi bod yn dîm neis a phositif. Pan oedden ni’n mynd i’r swyddfa, roedd yna groeso cynnes bob amser…

“Ac rydym ni wedi dod yn agosach mewn gwirionedd (ar ôl cael eu gwahardd gan Blaid Cymru yn ganolog). Mae’n bwysig nodi bod pob un o’r 40 wedi dewis gadael o’i wirfodd ei hunan.”

Mae’n ategu bod aelodau ifainc, cynghorwyr tref, cynghorwyr sir, ymhlith y bobol sydd wedi gadael, a bod y “sefyllfa oll yn eitha’ trist”.

Fe fydd Sean Rees yn gweithredu fel cynghorydd tref di-blaid o hyn allan, ac yn ei lythyr ymddiswyddo mae’n nodi “ffafriaeth a nepotistiaeth” o fewn y blaid ymhlith ei resymau tros adael.

Y blaid

Yn ei lythyr, mae Sean Rees hefyd yn nodi na fydd yn dychwelyd i’r blaid tan fydd “arweinyddiaeth y blaid” yn cael ei disodli.

Ac wrth siarad â golwg360 mae’n mynnu nad oes “malais” at y blaid yn gyffredinol, ac mai cynnen â’r blaid yn ganolog yw hyn.

“Fel y dywedais i neithiwr, does dim drwgdeimlad at y Blaid mewn unrhyw ffordd,” meddai. “Mae Plaid yn fwy nag un unigolyn.

“Mae gen i lawer o ffrindiau personol yn y blaid – a dyma’r peth tristaf mwy na thebyg. Dw i’n gobeithio’r gorau iddyn nhw yn y dyfodol.

“Mae yna ddiffyg democrataidd ar y top, ond mae yna aelodau islaw sy’n gweithio’n galed ledled y wlad.”

Neil McEvoy

Mae rhai wedi cymharu sefyllfa’r cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Neil McEvoy a changen Llanelli – gan gynnwys aelodau grŵp Sean Rees – gan ddweud bod tebygrwydd rhwng y ddau.

Ond, er bod y ddwy ochr wedi mynd benben â’r blaid yn ganolog, does dim llawer fwy o debygrwydd na hynny, meddai’r cynghorydd tref.

“Roedd yna lawer o ddryswch bore ‘ma,” meddai. “A yw’r hyn sy’n digwydd yn Llanelli yn mynd i fod yn rhan o hynny? Wel, ‘nac ydi’ yw’r ateb. Rydyn ni ar wahân, gyda phroblemau gwahanol.

“Mae sefyllfa Neil McEvoy a Llanelli yn hollol wahanol. Nid sefydlu grŵp gwleidyddol yw ein nod yn awr, ond sefydlu grŵp cymunedol lle allwn barhau i ymgyrchu tros faterion sylfaenol – yr economi, y gwasanaeth iechyd, creu cyfleoedd i bobol leol hefyd.”

Ymateb Plaid Cymru yn ganolog

“Mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar gyrraedd datrysiad cadarnhaol i’r sefyllfa yn Llanelli,” meddai llefarydd wrth golwg360.

“Mae nifer o aelodau yn yr etholaeth yn destun i broses ddisgyblaeth y blaid. Nid oes modd i ni wneud sylw pellach tan fod y broses hon wedi dod i ben.”