Mae daeargryn yn mesur 6.2 ar y raddfa, wedi ysgwyd prifddinasoedd Pacistan ac Afghanistan, ac mae adroddiadau’n dangos pobol yn rhedeg allan o adeiladau yn y ddwy wlad.

Roedd canolbwynt y daeargryn mewn ardal wledig yn Tajikistan.

Yn Islamabad ac yn Kabul, mae pobol wedi bod yn gadael eu swyddfeydd a’u cartrefi, gan adrodd adnodau o’r Koran wrth ddianc.

Cyn y crynu mwyaf, reodd daeargryn 5.1 wedi’i deimlo yn nwyrain Pacistan, ger y ffin ag Afghanistan. Fe achosodd y crynu hwnnw ruthr mawr mewn ysgol yn ninas Bannu, gyda deg o ddisgyblion yn cael eu hanafu.