Mae Clwb Pêl-droed Southampton wedi beirniadu gwesty’r Marriott yn Abertawe ar wefan TripAdvisor am dynnu eu hawl i aros yno yn ôl ar fyr rybudd.

Roedd disgwyl iddyn nhw aros yn y ddinas ar gyfer y gêm dyngedfennol ond fe gawson nhw wybod 24 awr ymlaen llaw fod firws wedi taro’r lleoliad ac y byddai’n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i lety arall.

Ond roedd adroddiadau bod rhai pobol wedi cael aros yno beth bynnag, a bod y clwb pêl-droed yn grac fod rhaid iddyn nhw newid eu cynlluniau.

Fe arhoson nhw yng ngwesty’r Vale ym Mro Morgannwg yn y pen draw, gan ychwanegu’n sylweddol at eu taith i Stadiwm Liberty – ond fe dalodd ar ei ganfed wrth iddyn nhw ennill o 1-0 i ychwanegu at her yr Elyrch o aros yn yr Uwch Gynghrair.

Yn dilyn y canlyniad, fe fydd rhaid i’r Elyrch ennill eu gêm olaf yn erbyn Stoke a gobeithio nad yw Huddersfield yn ennill un pwynt o’u dwy gêm olaf.

Adolygiad

Mewn adolygiad coeglyd a gafodd ei bostio ar dudalen Twitter WeMarchOn, cafodd gwesty’r Marriott adolygiad un seren.

Dywedodd y neges: “Roedd disgwyl i ni aros yma am daith fusnes bwysig iawn, ond cafodd ein harcheb ei ganslo 24 awr cyn i ni gyrraedd, mae’n debyg oherwydd firws.

“Siomedig iawn gan ei bod yn ymddangos nad oedd archebion gwesteion eraill wedi’u heffeithio. Roedd yr anghyfleustra’n golygu bod rhaid i ni wneud trefniadau amgen ar gyfer ein grŵp ar fyr rybudd.

“Wnaethon ni symud i’r Vale. Doedd y lleoliad ddim yn ddelfrydol ar gyfer ein hanghenion – taith dipyn hirach i gyrraedd ein cyfarfod – ond staff a chyfleusterau gwych yno a byddem yn ei argymell yn fawr.

“Yn ffodus, wnaeth y profiad ddim suro’n taith. Roedd y cyfarfod busnes yn fuddiol dros ben! Ddim yn bwriadu dychwelyd yn y dyfodol agos.”

Wrth ymateb ar ôl y gêm ar Sky Sports neithiwr, dywedodd rheolwr Southampton, y Cymro Mark Hughes: “Mae’n wych. Mi faswn i’n argymell y Vale!”