Mae honiadau newydd bod yr hyfforddwr o Gymru, Gwyn Williams wedi bod yn hiliol tuag at rai o chwaraewyr ifainc Clwb Pêl-droed Chelsea.

Mae’n un o ddau sy’n wynebu honiadau – y llall yw Graham Rix.

Dywedodd y clwb mewn datganiad eu bod yn “benderfynol o wneud y peth iawn”, ac yn “cefnogi’n llawn” unrhyw gyn-chwaraewr a gafodd ei effeithio.

Mae’r ddau wedi gwadu yn y gorffennol eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Bellach, mae naw chwaraewr wedi gwneud honiadau am y ddau, gan gynnwys dau chwaraewr â chroen gwyn.

Cefndir

Fis Ionawr, fe adroddodd papur newydd The Guardian fod nifer o gyn-chwaraewyr yn dwyn achos yn erbyn Gwyn Williams a Graham Rix.

Fe wnaeth yr heddlu gynnal ymchwiliad, ond daeth yr achos i ben heb gyhuddiadau ond mae’r ddau yn dal yn destun ymchwiliad gan y clwb a Chymdeithas Bêl-droed Lloegr.

Mae lle i gredu bod yr honiadau newydd yn ymwneud â chyfnod o 14 o flynyddoedd.

Cafodd Gwyn Williams ei benodi’n sgowt yn 1979, cyn symud i Leeds yn gyfarwyddwr technegol yn 2006.

Ymunodd Graham Rix â’r clwb fel hyfforddwr ieuenctid yn 1993 cyn dod yn is-reolwr yn ddiweddarach. Gadawodd y clwb yn 2000.

Un o’r honiadau yw fod y ddau wedi trefnu gêm ymarfer rhwng y “gwynion a’r duon”.

Dydi Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ddim wedi gwneud sylw am yr honiadau newydd hyd yn hyn.