Â’u gobeithion o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn pylu, mae rheolwr yr Elyrch yn dweud ei fod yn gweddïo am “ryw fath o wyrth”.

Cafodd Abertawe eu curo 1-0 gan Southampton nos Fawrth (Mai 8), a bellach dim ond un gêm sydd ganddyn nhw ar ôl – gêm yn erbyn Stoke ddydd Sul (Mai 13).

Fe fydd yn rhaid i’r Elyrch guro Stoke os ydyn am aros yn yr Uwch Gynghrair, ond dyw buddugoliaeth dros y penwythnos ddim yn ddigon ynddi’i hun chwaith.

Mae’r clwb hefyd yn dibynnu ar anffawd clybiau eraill – bydd yn rhaid i Huddersfield golli eu gemau terfynol yn erbyn Chelsea ac Arsenal.

Llygedyn o obaith

“’Dydyn ni ddim yn gallu dibynnu arnon ni’n hunain, ac mae hynny’n sefyllfa ofnadwy,” meddai rheolwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal.

“Mae cyfle gyda ni o hyd, ond ‘dyn ni methu dibynnu ar ein hunain. Cawn weld beth sy’n digwydd nos fory. Os wnawn ni aros fyny wedi hynny, bydd rhaid i ni ennill y gêm dros y penwythnos.

“Wedi hynny, arhoswn am ryw fath o wyrth.”