Mae ymdrechion ar waith i achub cytundeb niwclear Iran, yn dilyn penderfyniad Donald Trump i gefnu arno.  

Wrth gyhoeddi’i fwriad ddydd Mawrth (Mai 8), dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau y byddai’n ailgyflwyno sancsiynau “o’r lefel uchaf”.  

Gan ymateb i hyn, mae Tehran wedi dweud y byddan nhw’n aildanio eu rhaglen niwclear os bydd gwledydd eraill hefyd yn cefnu ar y ddêl.

Bellach mae’r Deyrnas Unedig, yr Almaen a Ffrainc – tair gwlad wnaeth arwyddo’r cytundeb – wedi pwysleisio’u “ymrwymiad parhaus” mewn datganiad ar y cyd.

“Diffygiol”

Cafodd y cytundeb ei lunio yn 2015, gyda’r nod o wanhau rhaglen ynni niwclear Iran a’i hatal rhag creu arfau niwclear.

Mae Donald Trump wedi cyfiawnhau ei benderfyniad trwy alw’r ddêl yn “ddiffygiol” a dadlau bod Iran ar fin cael gafael ar arfau niwclear.