Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei ganfod yn anymwybodol mewn parc yng Nghaerdydd.

Fe gafodd y dyn, a oedd yn ei 30au, ei ganfod gan aelod o’r cyhoedd ger caffi Summerhouse ym Mharc Bute toc wedi 6.30yb heddiw (dydd Mawrth, Mai 8).

Yn ôl Heddlu De Cymru, bu farw’r dyn yn y fan a’r lle, ac mae ei deulu erbyn hyn wedi’u hysbysu.

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n trin y farwolaeth fel un amheus.