Mae adroddiadau fod yr heddlu yn Rwsia wedi arestio hyd at fil o brotestwyr mewn dinasoedd ledled y wlad ddoe.
Roedd y protestwyr yn dangos eu dicter yn erbyn urddo Vladimir Putin am dymor newydd fel arlywydd.
Ymhlith y rhai a gafodd eu harestio roedd Alexei Navalny, trefnydd y protestiadau, ymgyrchydd gwrth-lygredd ac un o elynion amlycaf Vladimir Putin.
O Yakutsk yn Siberia i St Petersburg a Kaliningrad ar gyrion Ewrop, fe fu protestwyr yn cynnal ralïau o dan y slogan ‘Nid ef yw’n Czar’ a gan weiddi ‘Lleidr yw Putin’ a ‘Bydd Rwsia’n rhydd’.
Yn ôl ymgyrchwyr dros hawliau dynol, cafodd 574 eu harestio yn Moscow yn unig.
Fe fydd Vladimir Putin yn cael ei urddo am dymor chwe-blynedd arall fel arlywydd yfory, ar ôl ennill etholiad gyda 77% o’r bleidlais ym mis Mawrth.