Dylai Theresa May ymddiswyddo oherwydd y ffordd y mae cenhedlaeth Windrush wedi cael eu trin, yn ôl protestwyr mewn rali y tu allan i Downing Street ddoe.
Roedd y protestwyr yn cynnwys merched a dreuliodd fisoedd yng nghanolfan allgludo mewnfudwyr Yarl’s Wood, teuluoedd rhai fu’n dioddef ac ysgrifennydd cartref yr Wrthblaid, Diane Abbott.
“Lle mae sgandal Windrush yn y cwestiwn, mae pob ffordd yn arwain at Theresa May,” meddai Diane Abbott. “Hi a gychwynnodd yr ‘amgylchedd gelyniaethus’.”
Dywedodd un o’r protestwyr, Weyman Bennett, o Tottenham yng ngogledd Llundain fod Theresa May yn gyfrifol am gam-drin pobl mewn ffordd annynol.
“Amber Rudd a gymerodd y bai, ond dw i’n credu mai Theresa May sy’n gyfrifol ac y dylai hi fynd,” meddai.
“Dw i’n gobeithio y bydd Theresa May yn cael ei dal yn atebol am yr hyn a wnaeth, oherwydd rhaid i leisiau’r bobl gael eu clywed.”
Fel yn achos llawer arall o’i genedlaeth, roedd ei rieni wedi symud i Lundain o Jamaica i weithio ar ddiwedd yr 1950au a dechrau’r 1960au.
Er bod gan bobl a gyrhaeddodd cyn 1973 hawl i aros cyhyd ag y mynnent ym Mhrydain, wnaeth y Swyddfa Gartref ddim cadw cofnodion yn cadarnhau eu statws.
Mae llawer wedi colli eu swyddi, wedi eu hamddifadu o driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd, budd-daliadau a phensiynau ac wedi cael rhybudd eu bod yn wynebu cael eu hallgludo.