Mae cyn-feddyg arlywydd yr Unol Daleithiau yn dweud mai Donald Trump ei hun oedd yn gyfrifol am eirio llythyr yn disgrifio cyflwr ei iechyd a’i gryfder corfforol yn “anhygoel”.

Mae Dr Harold Bornstein newydd gyfaddef nad ef oedd yn gyfrifol am y llythyr a gafodd ei ryddhau i’r wasg ym mis Rhagfyr 2015 – er mai ei enw ef oedd ar y gwaelod.

Roedd y llythyr yn honni “Pe bai’n cael ei ethol, fe allaf dystio heb amheuaeth mai Mr Trump fydd yr unigolyn iachaf erioed i gael ei ethol yn arlywydd”. Roedd y llythyr hefyd yn dweud fod pwysau gwaed Donald Trump yn “arbennig” a’i iechyd cardiofasgwlar yn “ardderchog”.

Ond nawr, mewn cyfweliad gyda sianel newyddion CNN yn America, mae Harold Bornstein yn dweud mai Donald Trump eiriodd y llythyr ar ei hyd.

Ym mis Medi 2016, roedd Harld Bornstein wedi cyflwyno adroddiad mwy realistig o iechyd Donald Trump.