Mae plaid yr SNP wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i roi stop ar y Mesur Brexit tan fod y llywodraethau datganoledig i gyd wedi cytuno arno.

Yn wreiddiol, roedd llywodraethau’r Alban a Chymru yn gwrthwynebu’r mesur oherwydd ei fod, yn eu geiriau nhw, yn ymgais gan San Steffan i “gipio grym” a gwanhau datganoli.

Ond yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n rhoi sêl bendith i’r mesur, a hynny ar ôl i Lywodraeth San Steffan gynnig rhai newidiadau.

Dyw Llywodraeth yr Alban, sy’n cael ei harwain gan yr SNP, ddim wedi newid ei safbwynt, ac mae trafodaethau am gytundeb yn parhau.

Angen oedi

Yn y sesiwn gwestiynau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, fe alwodd yr Aelod Seneddol Patrick Grady ar y Llywodraeth i ddal y mesur yn ôl. 

“Mae’r Ceidwadwyr wedi’u hynysu yn Senedd yr Alban,” meddai, “ac mae yna gonsensws trawsbleidiol fod y Mesur Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn anaddas.

“A wnaiff e [Alun Cairns] sicrhau na fydd Tŷ’r Arglwyddi yn ystyried y mesur mewn trydydd darlleniad tan fod y llywodraethau datganoledig yn cael y cyfle i roi caniatâd cyfreithiol iddo?”

Fe ymatebodd Alun Cairns trwy ddweud ei fod yn “hyderus” y bydd cytundeb yn cael ei ffurfio rhwng Holyrood a San Steffan.

“Cyn belled â’n bod ni’n canolbwyntio ar y canlyniadau, a chyn belled â bod Llywodraeth yr Alban yn canolbwyntio ar y canlyniadau a darparu ar gyfer busnesau yn yr Alban, yna dw i’n hyderus y gallwn ni gyrraedd cytundeb.

“Dw i wir yn gobeithio y bydd Llywodraeth yr Alban yn gweld manteision y sicrwydd a’r diogelwch yr ydym ni’n gallu cynnig i ddiwydiannau a busnesau yn yr Alban gyda’r cytundeb hwn.”