Mae pumed dyn wedi marw o’i anafiadau wedi i storm eira annisgwyl amgylchynu grwp o gerddwyr yn ne-orllewin y Swistir, gan eu gorfodi i dreulio noson allan yn yr oerfel.

Mae’r ymdrech i ddod o hyd i weddill aelodau’r criw o 14 o gerddwyr o Ffrainc. yr Almaen a’r Eidal, yn parhau.

Ddoe, fe ddaeth cadarnhad fod pedwar o bobol wedi marw, a bod pump arall mewn cyflwr difrifol mewn ysbyty yn dilyn ymdrechion gan saith o hofrenyddion i achub y cerdddwyr.

Roedd nifer o’r cerddwyr yn diodde’ o hyporthermia, wedi iddyn nhw geisio cyrraedd cwt cerddwyr Vignettes ar uchder o 3,157m yn yr Alpau.