Mae Rwsia yn peri “bygythiad difrifol i’r byd” trwy anwybyddu cyfreithiau rhyngwladol, yn ôl yr Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol.
Mewn cynhadledd yr wythnos hon, mi fydd Penny Mordaunt yn cyhuddo Mosgow o annog Arlywydd Syria, Bashar Assad, i gyflawni troseddau hawliau dynol.
Bydd y gweinidog hefyd yn apelio am “ddatrysiad gwleidyddol” i’r “dioddefaint yn Syria”.
Yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig fydd yn cadeirio’r gynhadledd ym Mrwsel, ar ddydd Mawrth (Ebrill 24) a dydd Mercher (Ebrill 25).
“Bygythiad difrifol”
“Mae Rwsia yn peri bygythiad difrifol i’r drefn fydol trwy anwybyddu cyfreithiau rhyngwladol,” bydd y gweinidog yn dweud ddydd Mercher.
“Trwy atal pleidlais 12 o weithiau yn Syria, mae [Rwsia] wedi galluogi Assad i gyflawni troseddau hawliau dynol yn erbyn pobol ei hun.”